Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 25 Mehefin 2019
Amser:
08.30 -
09.04
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Lowri Hughes, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2019 -
·
Dadl Fer
Dawn Bowden (Merthyr Tudful a Rhymni) (30 munud)
- symudwyd i 26 Mehefin
· Dadl Fer Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy) (30 munud) - wedi'i gohirio o 26 Mehefin
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2019 -
· Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2018 - 19 (30 munud)
· Dadl ar yr adroddiad ar y cyd rhwng y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg; y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau; a'r Pwyllgor Cyllid: Asesu effaith penderfyniadau cyllidebol (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
Trafododd y Rheolwyr Busnes y papur a daethant i'r casgliad mai eu dewis oedd cael pleidlais ar y cynnig, yn hytrach nag iddo gael ei dderbyn heb bleidleisio arno. Siaradwyr y grwpiau ar gyfer yr eitem fydd Arweinwyr y Pleidiau, ac eithrio Plaid Cymru lle y bydd Rhun ap Iorwerth yn siarad. Gofynnodd y Llywydd i Reolwyr Busnes annog eu Haelodau i fod yn bresennol ar gyfer y ddadl.
· Dewisodd y Pwyllgor Busnes y cynnig a ganlyn ar gyfer dadl ar 3 Gorffennaf:
NNDM7102 Helen Mary Jones, (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil ar reoli'r gwasanaeth iechyd.
2. Yn nodi mai diben y Bil fyddai:
a) sefydlu corff proffesiynol i reolwyr y GIG yng Nghymru i bennu cymwyseddau proffesiynol craidd ar gyfer rheolwyr ar bob lefel, sicrhau bod rhaglenni hyfforddiant cychwynnol priodol a rhaglenni datblygiad proffesiynol parhaus yn cael eu datblygu, a gyda'r pŵer i gymryd sancsiynau yn erbyn rheolwyr am berfformiad gwael neu anniogel;
b) sicrhau gwir annibyniaeth Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru;
c) sefydlu dyletswydd gonestrwydd cyfreithiol i fod yn berthnasol i bob gweithiwr iechyd proffesiynol gan gynnwys rheolwyr; a
d) sefydlu system gwynion ddilys, gadarn a thryloyw sy'n cefnogi rhieni a theuluoedd.
Cymraeg 2050: Strategaeth ar gyfer y Gymraeg
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 4 Gorffennaf.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyfeirio'r Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar gyfer craffu gan y pwyllgor, gyda dyddiad cau ar gyfer adrodd yn ôl ar 3 Hydref.
Yn amodol ar gadarnhad gan grŵp Ceidwadwyr Cymru ei fod yn fodlon, cytunwyd y dylid gostwng nifer aelodau'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol i 4 Aelod. Cytunodd y Rheolwyr Busnes i gyflwyno'r cynnig i ddileu Dawn Bowden o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol cyn gynted ag y ceir cadarnhad.